top of page

O Ddefnyddiwr Campfa am y Tro Cyntaf i Orffennwr Great North Run: Taith Chwe Mis Jake

Sep 27
2 min read

Yn 76 oed, nid oedd Jake Steel erioed wedi rhoi troed mewn campfa. Chwe mis yn ddiweddarach, roedd yn croesi llinell derfyn y Great North Run.



Dechreuodd gyda nod uchelgeisiol a chwestiwn syml: a allai'r tîm yng nghampfa Met Active Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar Gampws Cyncoed ei helpu i baratoi i gwblhau hanner marathon?


Yr ateb oedd ie.


Gyda chefnogaeth gan Alison Jones, Rheolwr Ffordd o Fyw Egnïol, a thîm Met Active, dechreuodd Jake hyfforddi o'r dechrau, gan adeiladu ei gryfder, ei ffitrwydd a'i hyder yn raddol cyn un o ddigwyddiadau rhedeg enwocaf y DU.


Daeth cyflwyniad Jake i Met Active trwy ei wraig, Andrea Steel, Darlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a awgrymodd iddo ddefnyddio'r cyfleusterau ar Gampws Cyncoed.


Datblygodd yr hyn a ddechreuodd fel profiad cyntaf Jake o gampfa yn fuan yn daith hyfforddi chwe mis, gyda thîm Met Active yn ei gefnogi a'i arwain wrth iddo weithio'n raddol tuag at ei nod.


Talodd y gwaith caled hwnnw ar ei ganfed ym mis Medi pan gwblhaodd Jake y Great North Run, gan droi her uchelgeisiol yn gamp gofiadwy.


Wrth fyfyrio ar ei daith, dywedodd Jake:

“Diolch yn fawr iawn i Alison a’i thîm am gredu ynof fi, am gefnogi ac arwain fy hyfforddiant a’m helpu i droi nod uchelgeisiol yn realiti. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud hebddyn nhw!”


Mae cyflawniad Jake hefyd yn ein hatgoffa nad oes rhaid i oedran na phrofiad blaenorol gyfyngu ar her newydd. O gerdded i mewn i gampfa am y tro cyntaf yn 76 oed i gwblhau hanner marathon dim ond chwe mis yn ddiweddarach, mae ei daith yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy benderfyniad, hyfforddiant cyson a'r gefnogaeth gywir.


I dîm Met Active, mae'n enghraifft arall o'r rôl y gall Chwaraeon Met Caerdydd ei chwarae wrth helpu aelodau'r Brifysgol a'r gymuned ehangach i ddod yn fwy egnïol, meithrin hyder a gweithio tuag at nodau sy'n bwysig iddyn nhw.

Llongyfarchiadau, Jake, ar gyflawniad rhagorol.

Comments


Newyddion Diweddaraf

Cyflwynwch eich stori

Siopa

fnplh634rxoslf6aqffujwjpldnid4hgye2xzp7gr4tucg3n.jpeg.jpg

​

​

bottom of page