Ynglŷn â Chwaraeon Met Caerdydd
Mae chwaraeon yn rhan o DNA Met Caerdydd , lle rydym wedi cefnogi a datblygu ystod eang o athletwyr ar lefel Olympaidd a Rhyngwladol drwy gydol ein hanes.
"Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ein traddodiad o lwyddiant ar draws chwaraeon Cymru a Phrydain ac yn parhau i ddatblygu ein rhaglenni mewn ymgais gyson am ragoriaeth. Wrth ddewis astudio ym Met Caerdydd, byddwch yn dilyn yn ôl traed hyn ac yn elwa o System Chwaraeon sydd wedi'i chynllunio i greu'r amgylchedd gorau posibl i chi gyflawni eich potensial academaidd a chwaraeon."
Ein cenhadaeth yw datblygu a chefnogi myfyrwyr sydd eisiau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar bob lefel yn barhaus , er mwyn helpu i greu amgylchedd ar gyfer myfyrwyr gwych, athletwyr gwych, a phobl wych. Bob blwyddyn rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob myfyriwr fwynhau chwaraeon, boed i chwarae'n hamddenol neu gefnogi eu ffrindiau o'r llinell ochr. Mae gennym ffocws diysgog ar ddilyn rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn a datblygu myfyrwyr hyderus, llwyddiannus, ac emosiynol ddeallus.
Gyda phrofiad personol o gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ac ymgymryd ag ymchwil o'r radd flaenaf yn y byd, mae ein staff proffesiynol a'n cydweithwyr academaidd yn creu amgylchedd gwirioneddol unigryw. Mae ein model integredig yn golygu y gallwch fod yn sicr bod ein rhaglenni'n cael eu llywio gan y gwasanaethau hyfforddi a chefnogi diweddaraf, pob un wedi'i gynllunio i'ch datblygu fel athletwr. Ynghyd â'n partneriaethau allweddol ag amrywiaeth o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, mae ein rhaglenni'n gweithio ochr yn ochr â llwybrau talent cydnabyddedig.
Rydym hefyd yn parhau i fod yn un o ychydig o brifysgolion sy'n cefnogi cystadleuaeth mewn amrywiaeth o gynghreiriau proffesiynol a lled-broffesiynol, gan gynnwys timau pêl-droed Dynion a Merched yng Nghynghreiriau Uwch Cymru, Rygbi Dynion yn y Bencampwriaeth Genedlaethol, Pêl-fasged Merched yn y WBBL a Hoci Dynion yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr. Rydym hefyd yn falch o fod yn gartref i'r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru a'r Ganolfan Addysg Hyfforddwyr Tenis Genedlaethol, gan sicrhau, ni waeth pa lefel rydych chi'n mwynhau chwaraeon, y byddwch chi'n gallu chwarae yn rhai o gyfleusterau chwaraeon prifysgol gorau Cymru.
Ben O'Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon, Chwaraeon Met Caerdydd