O Ddefnyddiwr Campfa am y Tro Cyntaf i Orffennwr Great North Run: Taith Chwe Mis Jake
Yn 76 oed, nid oedd Jake Steel erioed wedi rhoi troed mewn campfa. Chwe mis yn ddiweddarach, roedd yn croesi llinell derfyn y Great North Run. Dechreuodd gyda nod uchelgeisiol a chwestiwn syml: a allai'r tîm yng nghampfa Met Active Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar Gampws Cyncoed ei helpu i baratoi i gwblhau hanner marathon? Yr ateb oedd ie. Gyda chefnogaeth gan Alison Jones, Rheolwr Ffordd o Fyw Egnïol, a thîm Met Active, dechreuodd Jake hyfforddi o'r dechrau, gan adeiladu ei gryfder, ei...