Met Caerdydd yn anelu at fwy na llwyddiant athletaidd
- Grace Evans

- 5 days ago
- 3 min read
Mae talent myfyrwyr Met Caerdydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r trac, y cae a’r meysydd chwarae. Mae i’w weld yng nghlic caeadau camerâu, ar dudalennau llyfrau braslunio ac ar liniaduron newyddiadurwyr sy’n fyfyrwyr.

Roedd Gemau’r Gymanwlad 2026 yn cynnig llwyfan o’r radd flaenaf i gysylltu’r amrywiaeth hon o sgiliau â phrofiad ymarferol yn y byd go iawn. Drwy gynnwys ei myfyrwyr dylunio a’i grewyr cyfryngau ei hun mewn digwyddiad rhyngwladol byw, rhoddodd Met Caerdydd lwyfan pwerus i dalent sy’n datblygu, menter y mae’r Brifysgol yn falch o’i dathlu fel enghraifft o ddysgu proffesiynol ymarferol.
Cyfle oes
Cyn dechrau Gemau’r Gymanwlad, bu myfyrwyr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr y diwydiant, Specialist Sports, i greu’r cit hamdden swyddogol ar gyfer Tîm Cymru. Rhoddodd y prosiect yr her i’r myfyrwyr drosi treftadaeth Cymru, angerdd ac uchelgais athletaidd yn ddillad a oedd yn adrodd stori.
Dywedodd Dr Bethan Gordan, Deon Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ym Met Caerdydd:
“Rydym yn rhoi pwyslais enfawr ar ein cysylltiadau â diwydiant.
“Mae ein myfyrwyr yn cael profiad amhrisiadwy drwy weithio ar friffiau byw, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol, gan eu harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu gyrfaoedd.”
Ond nid dyna ddiwedd y stori. Ar gyfer y Gemau eu hunain, aeth Chwaraeon Met Caerdydd â grŵp dethol o fyfyrwyr i Glasgow, gan roi cyfle iddynt ddefnyddio’u sgiliau ac ymgolli ym mhrofiad y Gymanwlad, wrth aros yn ‘nhŷ’ Tîm Cymru.
Pwysleisiodd Damian Burgess, Swyddog Cyfryngau Digidol a Marchnata Chwaraeon Met Caerdydd, effaith ymarferol y mentrau hyn, gan nodi bod y profiad yn rhoi gwaith gwerthfawr i’r myfyrwyr ei gynnwys yn eu portffolios proffesiynol.
“Un o’r pethau rydym am wneud mwy ohono ym Met Caerdydd yw defnyddio chwaraeon i greu cyfleoedd i fyfyrwyr y tu hwnt i’r rhai sy’n cystadlu ar y cae.
“Daeth y myfyrwyr â’u syniadau, eu hegni a’u sgiliau eu hunain i’r gwaith o gyflwyno’r Gemau, ac roeddem yn gallu cynhyrchu cynnwys llawer mwy amrywiol a dilys oherwydd eu cyfraniad.”

Llwyfan i ffynnu
I Grace Evans, myfyrwraig blwyddyn gyntaf yn astudio’r Cyfryngau a Chyfathrebu, roedd cael mynd i Gemau’r Gymanwlad fel newyddiadurwraig yn gyfle oes, ac yn un nad oedd hi erioed wedi dychmygu y byddai’n ei gael.
“Pe byddech chi wedi dweud wrtha i ar ddechrau fy mlwyddyn gyntaf y byddwn i’n gweithio yng Ngemau’r Gymanwlad, byddwn i wedi dweud eich bod chi’n wallgof.”
Nid yn unig y rhoddodd y profiad unigryw hwn gyfle i Grace roi ei hastudiaethau ar waith, ond rhoddodd gyfle iddi hefyd weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol, rhywbeth sydd wedi dylanwadu ar ei hagwedd a’i huchelgais.
“Gwnaeth Met Caerdydd fwy na rhoi cyfle i mi, roedden nhw’n credu ynof fi pan nad oeddwn i’n credu ynof fy hun.
“Mae’r profiad hwn wedi bod yn swreal... yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio.”
Ychwanegodd Fathema Khatun, myfyrwraig Meistr mewn Darlledu Chwaraeon, a oedd hefyd yn Glasgow ar gyfer y Gemau:
“Roedd gweithio yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn deimlad anhygoel...
“Rwy’n hynod ddiolchgar i Met Caerdydd am y gefnogaeth a’m helpodd i gael y cyfle hwnnw.”
I fyfyrwyr fel Sam Jones, fideograffydd ac un o gyd-fyfyrwyr Fathema, roedd cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad yn brofiad a drawsnewidiodd bopeth.
“Mae cael fy newis i fynd yno a gwneud rhywbeth rwy’n angerddol amdano yn rhywbeth na ellir ei gymharu ag unrhyw beth arall.”
Roedd y profiad yn cynnig amgylchedd proffesiynol ar lefel uchel, ynghyd ag ymdeimlad cryf o gymuned, o’r cyffro yn y cystadlu i dŷ Tîm Cymru, a oedd yn teimlo fel “cartref oddi cartref”.
Roedd gweithio mewn digwyddiad rhyngwladol mawr yn galluogi Sam i feithrin cysylltiadau yn y diwydiant a chydweithio’n uniongyrchol â’i gyd-fyfyrwyr, gan roi cam pwysig iddo tuag at ei ddyfodol.
“Mae gallu rhoi hyn ar fy CV yn rhywbeth na all arian ei brynu,” meddai.
Mae Sam yn rhoi clod i Met Caerdydd am roi’r sylfaen a’r hyder i’w fyfyrwyr lwyddo ar lwyfan mor fawr.
“Mae Met Caerdydd wedi rhoi’r llwyfan hwnnw i ni ffynnu, i dyfu ac i roi ein sgiliau ar brawf,” eglurodd.
Tynnodd sylw at y modd yr oedd ffrydiau byw dydd Mercher, ynghyd â gweithio’n agos gyda darlithwyr, technegwyr ac arbenigwyr darlledu, wedi ei baratoi ar gyfer pwysau gweithio yn y cyfryngau chwaraeon byw.
Wrth edrych yn ôl ar ei daith a’r cyfleoedd a roddwyd iddo gan y Brifysgol, ychwanegodd Sam:
“Maen nhw wedi newid fy mywyd yn sylweddol... mae’n rhywbeth y byddaf bob amser yn ddiolchgar amdano.”



























































Comments