top of page

Mae ein Cynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd yn ôl ar gyfer 2026!

Beth yw Llysgenhadon Ifanc? 

Mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc i gyd yn ymwneud â grymuso pobl ifanc ledled Caerdydd i fod yn llais dros Addysg Gorfforol, chwaraeon ysgol, gweithgaredd corfforol a symudiad yn eu hysgolion a'u cymunedau! 


Mae YA yn fudiad arweinyddiaeth ieuenctid yw YA, sy'n datblygu arweinwyr y dyfodol trwy chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chwarae. Mae'n ysbrydoli pobl ifanc i arwain, mentora ac eirioli dros Gymru iachach a mwy egnïol trwy greu cyfleoedd sy'n meithrin hyder, sgiliau a theimlad o berthyn.


Gofynnir i'ch Llysgenhadon Ifanc gefnogi gweithgareddau amser egwyl a chinio, gan pwysleisio ar annog chwarae, gan gynnwys ac ysgogi eraill i ymuno. Gallant hefyd gefnogi yn ystod gwersi Addysg Gorfforol a chlybiau ar ôl ysgol os dymunwch, gan arwain y cynhesu a chefnogi'r gwaith o sefydlu a phacio gweithgareddau.


Rydym hefyd wedi mapio'r prosiect yn erbyn Cwricwlwm Cymru. Yn dangos i ysgolion sut mae'r prosiect yn cysylltu â'r cwricwlwm i gefnogi eich pobl ifanc yn gyfannol i ddatblygu sgiliau annatod.


CymerBwrwch olwg ar Lysgenhadon Ifanc Efydd y llynedd


Gwobrau:


Byddwn yn gofyn i bob Llysgennad Ifanc gyflwyno eu horiau unwaith y mis, mae hyn yn eu rhoi yn ein raffl Llysgennad Ifanc y Mis lle gallant ennill bag o ddanteithion a thystysgrif yn cydnabod eu gwaith caled.


Bydd cyfleoedd eraill hefyd i'chr pobl ifanc drwy gydol y flwyddyn gael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled. Rydym am yn awyddus i hyn gael ei arwain gan y bobl ifanc, byddwn yn cymryd eu harweiniad ar yr hyn y maent am ei dderbyn.


Dyddiadau Cynhadledd 2026:


• Dwyrain Caerdydd: 23/03/26 - NIAC Prifysgol FMetropolitan Caerdydd


• Gorllewin Caerdydd: I'w gadarnhau


Bydd pob cynhadledd yn rhedeg o 10:00 - 14:30 gyda rhieni ac ysgolion yn gallu gollwng eu pobl ifanc o 9:30. Nid oes gofyn i athrawon a rhieni aros gyda'u pobl ifanc ond maent yn fwy na chroeso iddynt os dymunant.


Enwebwch Nawr!

Rydym yn awgrymu bod ysgolion yn enwebu cymysgedd cyfartal o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6, gan sicrhau bod gwaddol i'r rhaglen barhau yn eich ysgol.


Gall ysgolion enwebu rhwng 2 a 6 o bobl ifanc yn dibynnu ar faint eich ysgol.


I enwebu eich Llysgennad Ifanc Efydd a'u harchebu ar gyfer cynhadledd, ewch i: Ffurflen Enwebu Llysgennad Ifanc Efydd | Bronze Young Ambassador Nomination Form – i’w llenwi

Comments


Newyddion Diweddaraf

Cyflwynwch eich stori

Siopa

fnplh634rxoslf6aqffujwjpldnid4hgye2xzp7gr4tucg3n.jpeg.jpg

bottom of page