top of page

Ysgolion yn Cystadlu ym Marathon Mini Llundain ar Gampws Cyncoed

Gwisgodd disgyblion o ddwy ysgol gynradd leol eu hesgidiau hyfforddi i gymryd rhan mewn digwyddiad bywiog, “Mini Marathon Llundain” mewn Ysgolion ar Gampws Cyncoed, a gynhaliwyd y diwrnod wedi Marathon eiconig Llundain.

Roedd y digwyddiad yn rhan o fenter genedlaethol dan arweiniad Sefydliad Marathon Llundain, a gynlluniwyd i annog plant i fod yn gorfforol egnïol trwy gwblhau "Marathon Mini" dwy filltir o hyd yn eu hysgol neu'u cymuned leol. I ddod â'r profiad yn fyw, gwahoddwyd ysgolion i Gampws Cyncoed lle cafodd y cwrs ei drawsnewid yn lleoliad arddull marathon, ynghyd â cherddoriaeth fywiog, baneri Marathon Llundain a llinell derfyn gyffrous.


Cymerodd cyfanswm o 64 o blant o Ysgol Gynradd Sant John Lloyd ac Ysgol Gynradd Sant Phillip Evans ran, roedd yn ddiwrnod cynnes a heulog, ychwanegodd hyn at yr awyrgylch o ddathlu. Rhoddwyd y rhyddid i'r disgyblion gwblhau'r her mewn unrhyw ffordd ag y dymunant - boed yn rhedeg, loncian, cerdded, hopian, sgipio neu neidio - y prif nod oedd cwblhau dwy filltir neu aros yn egnïol am o leiaf 30 munud.


Drwy gydol y bore, roedd pawb wrth eu bodd, wrth i blant annog ei gilydd o amgylch y cwrs. Yr uchafbwynt i lawer oedd torri trwy'r llinell derfyn ar eu lap olaf, gan ymfalchïo a dathlu eu cyflawniad mewn steil marathon go iawn. Waeth sut y gwnaethon nhw ddewis symud, cwblhaodd pob plentyn y pellter dwy filltir yn llwyddiannus mewn llai na 30 munud.


Yn debyg iawn i Farathon Llundain, roedd cyfle hefyd i gystadlu am fedalau Aur, Arian ac Efydd. Gwelwyd pherfformiad trawiadol gan yr enillydd medal aur, wrth gwblhau’r ras mewn llai na 20 munud.


Mae digwyddiadau fel Marathon Mini Llundain mewn Ysgolion yn ategu mentrau gweithgarwch corfforol cenedlaethol gan gynnwys Y Filltir Dyddiol, rhaglen syml a chynhwysol sy'n annog plant i gymryd rhan i symud yn rheolaidd yn ystod y diwrnod ysgol. Drwy hyrwyddo cyfleoedd fel y rhain, gall ysgolion gefnogi plant i ddatblygu arferion cadarnhaol, gydol oes o amgylch gweithgarwch corfforol, mwynhad a lles. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Y Filltir Ddyddiol yma https://www.thedailymile.co.uk/ 


Dyma ddigwyddiad olaf a gefnogwyd gan garfan Lleoliad Rheoli Chwaraeon eleni. Mae eu brwdfrydedd, proffesiynoldeb a'u hymrwymiad wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn academaidd, ac roedd eu cefnogaeth unwaith eto yn amlwg wrth greu profiad hwyliog, diogel a chofiadwy i bawb a gymerodd ran. Roedd yn ffordd wych o orffen y flwyddyn mewn ysbryd da, a diolch yn ddiffuant i'r garfan am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn.


Ydych chi’n awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg neu i weld beth sydd ar gael?


Comments


Newyddion Diweddaraf

Cyflwynwch eich stori

Siopa

fnplh634rxoslf6aqffujwjpldnid4hgye2xzp7gr4tucg3n.jpeg.jpg

bottom of page