Pum Peth a Ddysgais Drwy Fy Mhrofiad Lleoliad Campws Agored
Roedd fy rôl o fewn Open Campus yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, addasu, cyfathrebu, ymgysylltu a hyfforddi amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon i blant, wedi'u teilwra i'w grwpiau oedran a'u galluoedd. Canolbwyntiodd y sesiynau ar amrywiol weithgareddau corfforol, gan gynnwys athletau, pêl-droed, rygbi, badminton a phêl-rwyd. Cyflwynwyd y sesiynau hyn ar draws sawl ysgol gynradd, gan weithio gyda disgyblion o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6, gyda meintiau dosbarth yn amrywio o 20 i 60 o blant. Yn...